Buddugoliaeth ar gyfer cydraddoldeb ieithyddol yn Senedd Ewrop
Datganiad gan ASE CRhE Jill Evans (Cymru)
Mae Senedd Ewrop wedi cymeradwyo adroddiad gan ASE Plaid Cymru Jill Evans, sy'n galw am weithredu ar lefel yr UE i bontio'r bwlch digidol rhwng ieithoedd Ewrop.
Mae'r adroddiad yn edrych ar y defnydd o ieithoedd mewn technoleg digidol ac yn gwneud nifer o argymhellion i'r Comisiwn Ewropeaidd.
Er bod y Comisiwn yn cydnabod bod yn rhaid i'r Farchnad Sengl Ddigidol fod yn amlieithog, nid oes unrhyw bolisi cynhwysfawr Ewropeaidd i fynd i'r afael â phroblem rhwystrau iaith digidol.
Cymeradwywyd yr adroddiad gan 592 o ASEau, gyda dim ond 45 yn erbyn a 44 yn ymatael eu pleidlais, gan roi hwb sylweddol i'r ymgyrch ar gyfer diogelu ieithoedd bychain Ewrop yn ddigidol.
Dywedodd Jill Evans ASE:
"Rwy'n falch bod Senedd Ewrop yn cytuno â'm barn bod angen cymryd camau i fynd i'r afael â'r bwlch digidol rhwng ieithoedd Ewropeaidd.
"Mae'n rhaid i ddinasyddion Ewropeaidd allu manteisio ar y byd digidol a chael mynediad iddo yn iaith eu hunain, gan gynnwys ieithoedd lleiafrifol. Bydd hyn yn gofyn am fuddsoddiad ac arweinyddiaeth ar lefel yr UE.
"Mae hwn yn gyfle enfawr i'r UE ddangos ymrwymiad go iawn i gydraddoldeb iaith, i siaradwyr holl ieithoedd Ewrop, gan gynnwys y Gymraeg.
"Mae fy adroddiad yn galw am gyfres o fesurau a fydd yn mynd ymhell tuag at gyflawni hynny."
Mae'r adroddiad yn galw ar yr UE:
(1) i wella'r fframweithiau sefydliadol ar gyfer polisïau technoleg iaith,
(2) i greu polisïau ymchwil newydd i gynyddu'r defnydd o dechnoleg iaith yn Ewrop,
(3) i ddefnyddio polisïau addysg er mwyn sicrhau dyfodol cydraddoldeb ieithyddol yn yr oes ddigidol,
(4) i gynyddu'r gefnogaeth i gwmnïau preifat a chyrff cyhoeddus i wneud gwell defnydd o dechnolegau iaith.