Bydd gadael yr UE yn dinistrio datblygiad rhanbarthol
Datganiad i'r Wasg gan ASE CRhE Jill Evans (Plaid Cymru)
Yn ôl ymchwil newydd, ceir yr anghydraddoldeb rhanbarthol gwaethaf yn Ewrop rhwng Llundain a Chymru.
Yn ogystal â hynny, fe ganfu’r ymchwil gan CPMR (Cynhadledd Y Rhanbarthau Morol Ymylol) y byddai gan y Deyrnas Gyfunol hawl i €13 biliwn (dros £11 biliwn) o ariannu datblygu rhanbarthol ar gyfer cylch 2021-2027. Rhoddir y nawdd yma i ranbarthau tlotach mewn ymgais i hybu eu perfformiad economaidd a’u datblygiad.
Mae’r cylch ariannu cyfredol yn rhedeg o 2014-2020, a disgwylir i Gymru fod wedi derbyn £2.06 biliwn mewn cymorth o ‘r UE. Yn ôl ymchwil CPMR bydd Cymru yn colli tua £2.5 biliwn dros y cylch nesaf fydd yn rhedeg o 2021-2027.
Dywedodd Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans, bod yr ymchwil yn dangos “nad oes modd datglymu’r cyswllt a geir rhwng Brexit ac anghydraddoldeb cynyddol”.
Dengys y ffigurau syfrdanol diweddaraf bod gan ranbarth cyfoethocaf y DG, sef canol Llundain, Gynnyrch Domestig Crynswth (CDC) sydd yn 614% o gymharu â chyfartaledd yr UE, o gymharu â rhanbarth tlotaf y DG, sef Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, sydd â CDC o 68% o gyfartaledd yr UE. Golyga hyn fod yna wahaniaeth o 546% yng nghyfartaleddau CDC cymharol rhwng y ddau ranbarth.
Gwelwyd o’r ymgyrch bod lefelau o wahaniaethau rhanbarthol o fewn y DG yn gwaethygu, gyda Chymru ar waelod y tabl. Byddai Dwyrain Cymru, a ystyriwyd gynt i fod yn ‘rhanbarth mwy datblygedig’ yn cael ei israddio nawr i ‘ardal trawsnewid’.
Dywedodd ASE Plaid Cymru, Jill Evans:
"Dylai’r ffigurau hyn fod yn destun cywilydd i Lywodraeth San Steffan.
“Does dim modd datglymu’r cyswllt a geir rhwng Brexit ac anghydraddoldeb cynyddol. Does dim modd dadlau gyda’r ffeithiau.
“Mae’r ffigurau hyn yn cadarnhau yn yr un modd a wnaeth y ddegawd ddiwethaf o lymder, taw nid y sawl a greodd yr anrhefn hon fydd yn gorfod ysgwyddo’r baich, ond y cymunedau sydd â’r lleiaf o allu i ymdopi.
“Os ydym o ddifrif ynglŷn â dod â’r anghydraddoldeb dychrynllyd hyn i ben, yna gadael yr Undeb Ewropeaidd yw’r peth olaf dylai Cymru ei wneud. Byddai colli ariannu hanfodol yr UE yn drychineb i Gymru a does gen i ddim hyder bydd San Steffan yn rhoi cymorth tebyg i ni..
"Mae anghydraddoldeb yn y DG yn uwch nac yn unrhyw aelod wladwriaeth yn yr UE. Tra bo Llundain yn gorboethi, mae economi Cymru yn gwanhau.
"Ddydd ar ôl dydd, daw effeithiau ofnadwy Brexit ar Gymru yn fwy eglur a chaiff celwyddau ymgyrchwyr dros Brexit eu dinoethi. Mae Pleidlais y Bobl, gyda’r opsiwn o aros yn yr UE yn hanfodol er lles ein democratiaeth, cymdeithas ac economy.”
Nodiadau
Gelllir dod o hyd i’r ymchwil llawn yma https://cpmr.org/cohesion/cpmr-analysis-uk-to-lose-e13bn-regional-funding-post-brexit/20525/