© Colonel
en | cy
string(2) "78"
Press release |

Amddiffyn hawliau democrataidd yng Nghatalwnia

Datganiad i'r Wasg gan ASE EFA Jill Evans

Mae ASE Plaid Cymru Jill Evans wedi cyd-lofnodi cwestiwn i'r Comisiwn Ewropeaidd yn condemnio ymddygiad llywodraeth Sbaen wrth iddo geisio atal refferendwm annibyniaeth i Gatalwnia.

Daw hyn yn dilyn adroddiadau fod erlynydd cyffredinol Sbaen wedi bygwth 712 o Feiri yng Nghatalwnia a etholwyd yn ddemocrataidd gydag achosion llys os byddant yn cefnogi cynnal y refferendwm.

Mae Senedd Catalwnia wedi pasio deddf i alw refferendwm ar annibyniaeth o Sbaen i'w gynnal ar 1 Hydref eleni.

Bydd Jill Evans ASE yn rhan o'r ddirprwyaeth swyddogol fydd yn arsylwi'r refferendwm.

Dywed Jill Evans ASE:

"Mae bygwth swyddogion etholedig gyda chael eu harestio am amddiffyn penderfyniad democrataidd i gynnal refferendwm yn warthus.

"Ymddengys fod llywodraeth Sbaen yn benderfynnol o amharu ar refferendwm democrataidd trwy fygythiad.

"Mae gan y llywodraeth ymrwymiadau fel aelod o'r UE i barchu penderfyniadau democrataidd a hawliau sylfaenol dinasyddion yr UE.

"Rydym yn gofyn i'r Comisiwn Ewropeaidd ystyried y materion hyn ar frys, yn enwedig y bygythiadau yn erbyn swyddogion etholedig."

Recommended

Event
Picture of Budapest - Hungary © Jaap Hart
Picture of Budapest - Hungary
Letter
© Alexander Briel
European flag 530x390
Press release
https://unsplash.com/photos/gray-concrete-building-covered-trees-dqXiw7nCb9Q
Due Diligance Directive

Responsible MEPs

Jill Evans
Jill Evans
Member

Please share