Digital-world-©-Nicholas-Monu
en | cy
string(2) "78"
Press release |

Pontio'r bwlch digidol rhwng ieithoedd

Datganiad gan ASE EFA Jill Evans (Plaid Cymru)

Mae ASE Plaid Cymru Jill Evans yn gobeithio bydd ei hadroddiad newydd 'Cydraddoldeb Iaith yn yr Oes Digidol' yn gyfraniad pwysig tuag at bontio'r bwlch digidol rhwng ieithoedd.

Gallai hyn arwain at Siri yn siarad Cymraeg, neu Alexa yn siarad Lithiwaneg, tra'n gwneud hi'n haws i ddefnyddwyr iaith arwyddion gael mynediad llawn i dechnoleg digidol newydd.

Cymeradwywyd yr adroddiad heddiw gyda chefnogaeth rhyng-bleidiol eang ym Mhwyllgor Diwylliant Senedd Ewrop.

Noda'r adroddiad tra fod cymaint o'n gweithgaredd bod dydd yn digwydd arlein bellach, mewn realiti mae bwlch digidol yn bodoli rhwng ieithoedd. Golyga hyn fod siaradwyr ieithoedd bach a llai eu defnydd, yn cynnwys iaith arwyddion, yn wynebu her sylweddol o'u cymharu â defnyddwyr ieithoedd mawr neu fwy dominyddol.

Mae 500 miliwn o ddinasyddion yr UE yn rhannu tua 80 o ieithoedd gwahanol, ond arlein mae rhai ieithoedd yn llawer mwy amlwg, gan eithrio eraill bron yn llwyr.

Ond gallai help fod wrth law trwy ddefnydd technoleg newydd sy'n gallu addasu i gwrdd ag anghenion gofod arlein amlieithog. Mae'r adroddiad yn galw ar y Comisiwn Ewropeaidd i weithredu er mwyn cefnogi datblygu cynnyrch digidol sy'n gweithio ar draws amrywiaeth eang o ieithoedd.

Dywedodd y rapporteur, ASE grŵp Seneddol y Gwyrddion/EFA Jill Evans (Plaid Cymru):

"Tra bo llawer o ieithoedd llai a lleiafrifol yn ffynnu fel ieithoedd cymunedol, mae'n aml yn stori wahanol arlein, lle'r mae'r Saesneg yn aml yn dominyddu.

"Mae hyn yn broblem i nifer o ieithoedd Ewropeaidd, nid dim ond ieithoedd lleiafrifol. Mae llawer o ieithoedd Ewropeaidd yn ieithoedd y mwyafrif yn y byd go iawn, ond maen nhw wedi dod yn ieithoedd lleiafrifol yn y byd digidol.

"Bydd defnydd creadigol technoleg digidol newydd yn ein helpu i bontio'r bwlch digidol rhwng ieithoedd. Bydd hyn yn golygu cyfleoedd gwell i'r nifer sylweddol o bobl yn Ewrop sy'n siarad ieithoedd sydd yn aml ddim ar gael ar blatfformau fel Siri neu Alexa, er enghraifft.

"Rwy'n falch i ni ennill cefnogaeth rhyng-bleidiol dros yr adroddiad hwn.

"Mae'n amser bellach i'r Comisiwn Ewropeaidd gyflwyno mesurau i helpu i bontio’r bwlch digidol rhwng ieithoedd – gan gynnwys rhoi maes 'amlieithrwydd a thechnoleg iaith' dan ofal Comisiynydd penodol, sef un o brif argymhellion yr adroddiad hwn.

"Mae'r dechnoleg yn bodoli eisoes, bellach mae angen gweld yr ewyllys gwleidyddol i sicrhau newid go iawn."

Noda'r adroddiad bod Technoleg iaith i'w canfod mewn llawer o gynnyrch digidol bob dydd, gan fod y rhan fwyaf ohonynt yn defnyddio iaith i ryw raddau. Mae cyfathrebu mobeil, cyfryngau cymdeithasol, cynorthwywyr deallus, a rhyngwynebau lleferydd yn trawsnewid y ffordd mae dinasyddion, cwmnïau a'r sector gyhoeddus yn cyfathrebu yn y byd digidol.

Er mwyn gwella cydraddoldeb rhwng ieithoedd yn Ewrop, mae'r adroddiad yn galw am y canlynol:

(1)        Gwella'r fframwaith sefydliadol ar gyfer polisïau technoleg iaith,

(2)        Creu polisïau ymchwil newydd i gynyddu defnydd technoleg iaith yn Ewrop,

(3)        Defnyddio polisïau addysg er mwyn sicrhau dyfodol cydraddoldeb iaith yn yr oes digidol,

(4)        Cynyddu'r gefnogaeth dros gwmnïau preifat a chyrff cyhoeddus i wneud defnydd gwell o dechnoleg iaith.

Cafodd yr adroddiad ei gymeradwyo ym mhwyllgor diwylliant Senedd Ewrop heddiw gyda 22 aelod yn pleidleisio o blaid, 0 yn erbyn a 4 yn ymatal.

Responsible MEPs

Jill Evans
Jill Evans
Member

Please share