Camau i ddod ag anghydraddoldeb ieithyddol i ben yn Ewrop
Datganiad gan ASE EFA Jill Evans (Cymru)
Bydd ASE Plaid Cymru Jill Evans yn cyflwyno ei hadroddiad drafft ar ‘Gydraddoldeb Ieithyddol yn yr Oes Ddigidol’ heddiw i Bwyllgor Diwylliant ac Addysg Senedd Ewrop.
Mae’r adroddiad yn amlygu pa heriau sydd yn wynebu ieithoedd lleiafrifol a ieithoedd a ddefnyddir leiaf yn Ewrop. Saesneg yw’r iaith a ddefnyddir fwyaf ar-lein ar hyn o bryd ac nid yw nifer o wasanaethau ar gael o gwbl mewn unrhyw iaith arall.
Yn adroddiad Ms Evans, caiff ystyriaeth ei roi i sut gall technolegau newydd gael eu defnyddio i gynyddu’r defnydd a wneir o ieithoedd lleiafrifol ar-lein, yn hytrach na’u peryglu.
Cyn y cyfarfod o’r Pwyllgor Diwylliant ac Addysg bore ‘ma ym Mrwsel, dywedodd yr ASE Plaid Cymru, Jill Evans:
"Mae’r adroddiad yma’n codi ymwybyddiaeth o’r heriau sydd yn wynebu ieithoedd lleiafrifol yn Ewrop, ac mae hyn mor bwysg i ni yng Nghymru. Mae addysg a llenyddiaeth Gymreig yn ffynnu ac mae ein sin gerddoriaeth yn gryfach nac y bu ers blynyddoedd. Fodd bynnag,yn yr oes ddigidol, mae ieithoedd fel y Gymraeg yn ymdrechu yng ngwyneb dominyddiaeth yr iaith Saesneg.
"Y broblem yw bod pobl yn treulio cymaint o amser mewn byd digidol sydd bron yn gyfangwbl Saesneg ei hiaith, fel bod y defnydd a wneir o ieithedd lleiafrif yn lleihau. Mae technolegau newydd fel Siri ac Alexa yn newid y ffyrdd rydym yn byw ein bywydau ond dydn nhw ddim ar gael ar hyn o bd mewn iweithoedd lleifrifol.”
"Fodd bynnag, yn hytrach nac edrych ar dechnoleg fel bygythiad mae angen i ni ei weld fel cyfle i’n galluogi i gyflawni cydraddoldeb ieithyddol yn Ewrop.
"Cafwyd cynnydd eisoes. Wrth weithio gyda Chomisiynydd yr Iaith Gymraeg, mae Microsoft wedi datblygu rhyngwynebau Cymraeg ac mae Facebook wedi adddasu ei ryngwyneb er mwyn cynnwys ieithoed lleiafrifol ac mae yna wasnaethau rhagorol ar gael fel Cysill a Cysgair, sydd wedi gwella gwasanaethau cyfieithu ar-lein.
"Dylai polisiau annog datblygiad rhaglenni fydd yn helpu ieithoedd llai gyflawni’r un lefel o gefnogaeth ddigidol a ieithoedd a lefarir ar lefel mwy eang.
"Mae amrywiaeth ewrop yn rhyfeddol. Gydag 80 o ieithoedd gwahanol, fe ddylem fod yn defnyddio’n amlieithrwydd a manteisio arn, gan ddatblygu polisiau fydd yn ein hannog i ddefnyddio ein ieithoedd ein hunain er mwyn sicrhau gwir gydraddoldeb ieithyddol yn yr oes ddigidol ".
Diwedd.
Nodiadau: Adroddiad drafft Jill Evans ar ‘Gydraddoldeb Ieithyddol yn yr Oes ddigidol’.